Y Colledig: Straeon Cyfrol I (R. Hughes Williams)
Y Colledig: Straeon Cyfrol I (R. Hughes Williams)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Amser blin y chwarelwr yw y gaeaf...
Roedd Richard Hughes Williams (1878-1919) yn un o awduron rhyddiaith blaenllaw ei oes yn yr iaith Gymraeg. Gwnaeth ei gyfraniad mwyaf sylweddol fel awdur straeon byrion, ac yn y maes hwnnw ystyrir ef yn arloeswr oedd yn ddylanwad sylweddol ar awduron diweddarach. Bu’n byw mewn sawl lle gwahanol yn rhinwedd ei yrfa fel newyddiadurwr, ond roedd yn enedigol o bentref Rhosgadfan, ac fe gysylltir ef yn annatod gyda bro chwarelyddol Gwynedd, sy’n gefndir i’w straeon mwyaf adnabyddus.
Cyhoeddwyd casgliadau o’i straeon mewn llyfrau yn 1914 ac yn 1916; ychwanegwyd at y rhain mewn cyfrolau diweddarach ar ôl ei farwolaeth. Mae’r casgliad newydd hwn yn dwyn holl straeon y cyfrolau hyn ynghyd â rhai newydd nad ydynt wedi ymddangosodd mewn llyfr cyn nawr.
Efe oedd y cyntaf i edrych ar [y Stori Fer] o ddifrif.
—Kate Roberts
Ni fu’r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni. Ni allai fod.
—E. Morgan Humphreys
Clawr papur, 180 o dudalennau.
Share
