Y Cychwyn (T. Rowland Hughes)
Y Cychwyn (T. Rowland Hughes)
Methu â llwytho argaeledd casglu
““Bora clir, braf, ynte?” meddai hi wedi iddi groesi at y ffenestr.
“Y? Clir? A’r hen darth ’na dros y pentra’ i gyd!”
Edrychodd hi’n ddryslyd arno.
“Welwch chi gapal Siloam, Nyrs?”
“Gwela’. Ond does ’na neb ar y ffordd eto. Rhy gynnar o lawar.”
“Nyrs?”
“Ia, Robat Ellis?”
“Wela’ i mo’r capal na’r ysgol na’r eglwys na dim.”
Wedi dirywiad sydyn ac annisgwyl ei dad, rhaid i Owen Ellis dyfu’n gyflym. Er ei fod yn chwarelwr wrth ei waith, mae ei ddawn naturiol wedi’i fwriadu i rywbeth mwy.
Ond a fydd ei dlodi a’i gyfrifoldebau’n profi’n drech na’i uchelgais?
Fel mae’r teitl yn awgrymu, bwriad T. Rowland Hughes oedd y byddai Y Cychwyn yn rhan gyntaf ei waith mwyaf: trioleg yn dilyn Owen Ellis drwy ei fywyd cyfan o’i ieuenctid i’w henaint. Yn y diwedd profodd ei gyflwr dirywiol ei hun yn drech nag ef, ac Y Cychwyn fyddai ei nofel olaf; ond ynddi gwelir un o nofelwyr Cymraeg mwyaf ei oes ar anterth ei grefft.
Clawr papur, 266 tudalen.
Share
