Y Llaw Gudd (E. Morgan Humphreys)
Y Llaw Gudd (E. Morgan Humphreys)
Methu â llwytho argaeledd casglu
"O'r gorau," meddai. "Un garw ydach chi, hefyd. Ond fe fydd yn well i Aubrey ac i Gwynn edrych ati hi."
"Pe buasai rhyw ddamwain anffodus yn digwydd i'r ddau," meddai Morley yn sychlyd, "buasai'n beth gofidus iawn."
"Gobeithio'r gorau," meddai Elston, ac ar hynnycerddodd y ddau i'r tŷ.
Mae'n debyg mai John Aubrey, creadigaeth E. Morgan Humphreys, yw'r ditectif llenyddol Cymraeg cynharaf i ymddangos dros gyfres o straeon. Ymddangosodd mewn pedair antur - un nofel a thair nofelig - dros gyfnod o saith mlynedd ar hugain, ac mae'r gyfrol hon yn dwyn y tair nofelig ynghyd.
Yn Y Llaw Gudd (1924), cawn ddirgelwch ditectif traddodiadol gyda gwedd Gymreig wrth i Aubrey ymchwilio i lofruddiaeth ffermwr yn y cefn gwlad. Ymchwilio i ddiflaniad sydyn gŵr busnes y mae yn Ceulan y Llyn Du (1944) cyn cael ei sugno i mewn i gynllwyn dialgar, ac yn Llofrudd yn y Chwarel (1951) mae ar drywydd ffoadur peryglus. Roedd y tair stori yma'n gyfraniadau pwysig i lenyddiaeth drosedd yn y Gymraeg.
Clawr papur, 234 tudalen.
Share
