Y Proffwyd (Khalil Gibran)
Y Proffwyd (Khalil Gibran)
Methu â llwytho argaeledd casglu
A bydded eich gorau er mwyn eich cyfaill.
Os rhaid iddo wybod trai eich llanw, bydded iddo wybod ei lif hefyd.
Canys ai rhywun i’w geisio ag oriau i’w lladd yw eich cyfaill?
Ceisiwch ef bob amser ag oriau i’w byw.
Canys ei eiddo ef yw diwallu’ch angen, eithr nid llenwi’ch gwacter.
Ac ym melyster cyfeillgarwch, bydded chwerthin a rhannu pleserau.
Canys yng ngwlith y pethau bychain y mae’r galon yn canfod ei bore ac yn cael ei hadfywio.
Llyfr sy'n cynnwys 26 o ddamhegion yw Y Proffwyd, a luniwyd yn wreiddiol yn Saesneg ar ffurf ryddiaith prydyddol gan y bardd a’r athronydd Libanaidd-Americanaidd Kahlil Gibran. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf ym 1923, a dyma waith mwyaf adnabyddus Gibran. Mae Y Proffwyd wedi’i gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys y cyfieithiad Cymraeg hwn gan Dimitri Hrapof, sy'n ei wneud yn un o’r llyfrau a gyfieithwyd i'r nifer fwyaf o ieithoedd erioed. Ni fu erioed allan o brint.
Mae’r hanes yn ein cyflwyno i’r Proffwyd Almwstaffa, sydd wedi disgwyl am ddeuddeng mlynedd am ei long, a fydd o’r diwedd yn ei gludo’n ôl i ynys ei enedigaeth. Cyn iddo ymadael, mae rhai o drigolion dinas Orffalês yn gofyn iddo, am y tro olaf, rannu â hwy ei ddirnadaethau ar amryw bynciau (“Llefara wrthym am …”). Mae’r Proffwyd yn traddodi 26 o bregethau sy’n ymdrin â chwestiynau sylfaenol bywyd dynol, sef cariad, priodas, plant, rhoi, bwyta ac yfed, gwaith, llawenydd a galar, tai, dillad, prynu a gwerthu, trosedd a chosb, cyfreithiau, rhyddid, rheswm ac angerdd, poen, hunan-adnabyddiaeth, addysgu, cyfeillgarwch, siarad, amser, daioni a drygioni, gweddi, pleser, harddwch, crefydd ac, yn olaf, angau. Yn y bennod olaf, mae Almwstaffa yn plethu trafodaeth ar gwestiwn ystyr bywyd i’w eiriau ymadael.
Clawr Papur, 136 o dudalennau, gyda darluniau.
NODER: Nid Melin Bapur gyhoeddoedd y llyfr hwn, ac yn anffodus ni allwn ei chynnig i gwsmeriaid yn UDA neu Awstralia.
Share
