Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 3

Y Rhawnbais (Jerry Hunter)

Y Rhawnbais (Jerry Hunter)

Pris arferol £9.73 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £9.73 GBP
Gostyngwyd Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.

Wedi dod i'r casgliad mai dyma'r ffordd orau o gofnodi'r holl hanas. Fel hyn. Nid adrodd y stori fel stori, ond ei hadrodd am yn ôl, neu am i lawr, neu beth bynnag yw'r ymadrodd cywir. Trychu a dadorchuddio gan amlygu'r holl stori fesul haen. Mae hynny'n digwydd; mae'n ffordd eithaf cyffredin o gael at y gwirionedd, beth bynnag yw'r gwirionedd dan sylw. Ond dyna'r holl bwynt: bod y sylw(edd) dan sylw ac o dan sawl haen o ystyr, ac weithiau o dan haen o sbwriel a rwtsh y mae angen ei symud o'r ffordd cyn amlygu'r ystyr ac adrodd y stori.

Mae'r Rhawnbais yn wahanol i unrhyw nofel Gymraeg a luniwyd erioed o'r blaen - yn wahanol, o bosib, i unrhyw nofel mewn unrhyw iaith.

Deunydd crai'r nofel yw cyfuniad o ryddiaith, delweddau, deunyddiau hapgael (found materials) wedi'u trefnu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys teipio, llawysgrifen, a collage, gydag elfen o hap a siawns yn rhan anatod o'r broses creu.

Mae gofyn i'r darllenwr ddehongli'r deunydd iddo'i hun er mwyn datrys y stori, sy'n dwyn ysbrydoliaeth o ystod o ffynonellau gwasgaredig, o'r  creisis Iechyd Meddwl i hanes esblygiad y ddynolryw a Chainc Gyntaf y Mabinogi. Mae hi'n nofel sydd yn ei thro yn dywyll ac yn ddoniol, yn ddifrifol ac yn chwareus, yn ysgytwol ac yn fympwyol; mae'r profiad o'i darllen yn unigryw a byth yn ddim byd ac eithrio'i hun. 

Mae Jerry Hunter yn un o awduron mwyaf blaenllaw'r iaith Gymraeg yn yr 21g, ac yn sicr yn un o'r mwyaf uchelgeisiol. Ar ôl gorchestion ieithyddol blaengar Ebargofiant (2014) ac An Atheist Christian Gunslinger (2026), mae Y Rhawnbais, a gyhoeddwyd yn flaenorol fel cyfres ar dudalennau O'r Pedwar Gwynt rhwng 2017 a 2025, yn brawf eto o'i statws fel arbrofwr mwyaf ein llenyddiaeth.   

Clawr Papur (Maint A4), 130 tudalen. 

Gweld manylion llawn