Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Y Tir Pell a Cherddi Eraill (Robert ap Gwilym Ddu)

Y Tir Pell a Cherddi Eraill (Robert ap Gwilym Ddu)

Pris arferol £7.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £7.99 GBP
Gostyngwyd Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.
“Pan fyddo’r anadl yn byrhau,
A’r poenau mawrion yn trymhau,
A’r enaid dros y genau mud
Yn dianc i’r tragwyddol fyd;

Gad imi syllu ar dy wedd,
Nes byddwyf yn anghofio’r bedd;
A phrawf o’th gariad dyro im’,
Nes byddo marw’n mynd yn ddim.”

Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams, 1766-1850) oedd aelod hynaf cylch o feirdd enwog yn Eifionydd yn ystod rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg (yn eu plith Eben Fardd) Oherwydd iddo wrthod cystadlu mewn Eisteddfodau, nid enillodd yr un bri â rhai o’i gyfeillion; ond erbyn heddiw cydnabyddir ef fel un o feirdd mwyaf ei oes yn y mesurau caeth.

Enghraifft nodweddiadol o Fardd Gwlad, canodd i’w gyfoedion a’i fro – yn ogystal â’i ddannedd a’i ffon gerdded! – ond roedd hefyd yn emynwr medrus ac yn fardd crefyddol mawr. 

Perffeithydd yr englyn Cymreig ac un o feirdd mwyaf y ganrif.
—W. J. Gruffydd 

Clawr Papur, 96 tudalen.

Gweld manylion llawn