Y Trydydd Plismon (Flann O'Brien)
Y Trydydd Plismon (Flann O'Brien)
“Gwyddwn fod ’rhen Mathers wedi’i lorio gan bwmp beic haearn, wedi’i ddarnio i farwolaeth â rhaw drom ac wedyn wedi’i gladdu’n ddiogel mewn cae. Gwyddwn hefyd fod yr un dyn bellach yn eistedd yn yr un stafell â mi, yn fy ngwylio mewn distawrwydd. Roedd ei gorff wedi’i rwymo ond roedd ei lygaid yn fyw ac felly hefyd ei law dde ac felly hefyd yntau o’i gorun i’w sawdl. Hwyrach mai hunllef oedd y llofruddio min ffordd...”
Flann O’Brien (1911-1966) oedd un o ffugenwau Brian O’Nolan, un o ffigyrau mwyaf blaenllaw llenyddiaeth Wyddelig a llenyddiaeth ôl-fodernaidd yn yr iaith Saesneg. Ysgrifennodd nofelau a dramâu yn y Wyddeleg a’r Saesneg.
Ei nofel yn Saesneg The Third Policeman yw un o’i weithiau mwyaf adnabyddus heddiw, ond er iddo gwblhau’r nofel yn 1940, ni chafodd ei chyhoeddi nes 1967, flwyddyn ar ôl marw’r awdur, ac bellach fe’i hystyrir yn gampwaith ac yn un o weithiau llenyddol mawr cyntaf ôl-foderniaeth.
Y cyfieithiad newydd hwn gan Anna Gruffydd yw'r cyntaf o waith Flann O'Brien i’r Gymraeg.
Clawr papur, 244 o dudalennau.