Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth (Daniel Owen)
Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth (Daniel Owen)
“Pa fath bobol, syr, ydach chi yn ein galw ni y Cymry? Slaves dienaid a di-ynni yr ydw i yn ’u galw nhw, yn diodde y pla yma ers oesoedd. Mi fyddaf yn synnu na fasen ni ers talwm wedi codi fel un gŵr i ymlid y lot ddiog hyn oddi ar ein porfeydd! Maent yn casáu ein hiaith, ac
wedi gneud eu gorau i’n cael dan draed y Saeson, ac ar yr un pryd
y maent yn bwyta braster ein gwlad a chynnyrch ein tiroedd
—a ninnau a’n llaw wrth ein het iddynt am neud hynny!”
Daniel Owen oedd awdur rhyddiaith bwysicaf ei oes. Er mai am ei nofelau y cofir ef yn bennaf, ysgrifennodd hefyd nifer o weithiau byrrach ar ffurf straeon byrion ac ysgrifau; roedd hefyd yn fardd achlysurol.
Casglwyd rhai o’r gweithiau hyn mewn cyfrol yn 1886 yn Y Siswrn, a brofodd yn un o gyhoeddiadau mwyaf poblogaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r gyfrol hon yn cynnwys holl gynnwys y gyfrol honno, gan gynnwys stori fer orau’r awdur, Yr Ysmygwr, ynghyd a nifer fawr o weithiau ychwanegol na chawsant eu cyhoeddi erioed o’r blaen ar ffurf cyfrol.
“...tour de force, camp anghyffredin mewn maes hollol ddieithr iddo.”
—Saunders Lewis, am Yr Ysmygwr
Clawr papur, 179 o dudalennau.