Y Rhamant Hanesyddol Gymreig

Y Rhamant Hanesyddol Gymreig

F el, hwyrach, yn achos unrhyw genedl, ystyr hanes Cymru i lawer yw ei harwyr hi: Llywelyn Fawr, Llywelyn ein Llyw Olaf ac yn anad neb Owain Glyndŵr. Mae’r ffigyrau hyn wedi ein swyno erioed, ac yn dal i wneud, ac er nad oes fersiwn Hollywood hyd yn hyn, mae eu straeon yn cael eu haddasu o hyd i gynulleidfaoedd newydd mewn rhaglenni dogfen, dramâu ac wrth gwrs mewn nofelau, yr enwocaf ohonynt hwyrach nofel Saesneg John Cowper Powys, Owen Glendower.

Nid pethau newydd mo’r addasiadau. Mewn gwirionedd mae straeon am yr arwyr hyn wedi cael eu hadrodd ers oes yr arwyr eu hunain. Ond yma yng Nghymru, dydyn ni ddim bob amser yn cofio hynny, ac mae’n debyg y bydd hi’n synnu llawer i ddysgu nad nofel Cowper Powys oedd y cyntaf i ddefnyddio stori Glyndŵr – nid hyd yn oed yr ail na’r drydedd. Ysgrifennwyd cymaint â phedair nofel yn Gymraeg am Owain Glyndŵr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn unig – os nad oes yna ragor nad ydw i wedi cael hyd iddynt eto!

I raddau dydy hi ddim yn syndod bod oes Fictoria wedi bod yn oes aur ar gyfer Rhamantau Hanesyddol yng Nghymru. Wedi’r cyfan, roedd yn gyfnod o adfywiad cenedlaethol Cymreig, a’r awdur mwyaf poblogaidd yn y byd i gyd ganrif honno oedd Walter Scott, a ddyfeisiodd y rhamant hanesyddol gyda gweithiau fel Ivanhoe, Waverley, Rob Roy ac ati. Roedd y rhain yn cynnig gweledigaeth genedlaethol o hanes yr Alban a Lloegr, a teg fyddai disgwyl i’r Cymry edrych yn genfigennus ar y llyfrau hyn. Mewn llawer ffordd felly, Rhamantau Hanesyddol yw’r union fath o nofelau y basech chi’n disgwyl i awduron Cymraeg eu cynhyrchu — a dyna’n union beth wnaeth llawer iawn ohonynt. Ysywaeth, mae’r straeon hyn bellach bron yn hollol angof, ac er bod yn rhaid cyfaddef bod eu hansawdd yn amrywiol iawn i ddweud y lleiaf, os oes genre mewn llenyddiaeth Gymraeg sydd galw allan i ni edrych arno o’r newydd, yna dyma fe.

Dechreuodd y rhamantau Hanesyddol cynharaf ymddangos yn y 1860au, bron ar ddechrau un y nofel Gymraeg (Ymddangosodd Aelwyd F’Ewythr Robert gan Gwilym Hiraethog, y nofel Gymraeg gyntaf medd rhai, yn 1852), peth amser cyn i nofelwr mawr cyntaf y Gymraeg, Daniel Owen, ddechrau ysgrifennu. Ond roeddynt ar eu hanterth yn yr 1870au a’r 80au, gyda nofelau fel Llywelyn Llyw Olaf Gwalia (dienw; 1872‑3), Karl y Llew (dienw; 1875‑6), Ednyfed Fychan gan Thomas John Jones (1878), ac Owain Glyndŵr gan John Davies Jones (1877‑8), Gruffydd ab Cynan (1885) gan Elis o’r Nant, i enwi dim ond llond llaw. Erbyn yr 1890au roedd o leiaf un enghraifft gan ferch hefyd: Y Fun o Eithinfynydd gan Mary Oliver Jones (1893), sy’n dilyn anturiaethau carwriaethol y bardd Dafydd ap Gwilym. 

Yn amlach na pheidio mae’r gweithiau hyn yn ‘hanesyddol’ dim ond yn yr ystyr bod ambell i ffaith hanesyddol yn cyfrannu at eu cymeriadau a’u plot: nid yw’r digwyddiadau go iawn fel arfer yn lawer mwy na fframwaith bras i’r awdur hongian antur arni. Mae’r strwythur, yn aml, yn wan, ychydig mwy na chrwydro o frwydr i frwydr. Un o’r enghreifftiau cynnar ac un o’r goreuon o’r math hwn o antur ‘bachgennaidd’ (chwedl Dafydd Jenkins) yw Rheinallt ap Gruffydd gan Isaac Foulkes (1873). Roedd hefyd yn un o’r nifer gymharol fechan o’r gweithiau hyn a gyhoeddwyd fel llyfr, yn hytrach na dim ond cyfres mewn cylchgronau; mantais fawr iddi yw’r ffaith ei bod yn gymharol fyr, fel na chaiff y darllenydd gyfle i syrffedu ar y plot llac. Ychydig iawn yw’r deunydd hanesyddol - sgarmes fechan hanner-anghofiedig yn ystod Rhyfeloedd y Twristiaid arweiniodd at grogi Maer dinas Caer gan bendefig Cymreig - sy’n gadael digonedd o le i’r awdur greu cymeriadau dychmygol sy’n fwy cofiadwy na’r arwr hanesyddol sy’n rhoi i’r nofel ei theitl. Antur fach hwyl: rwy’n dychmygu mai dyma’r math o beth roedd pobl fel Roger Edwards yn ymateb yn ei erbyn wrth gwyno am ddiffyg nofelau ‘llesol’ yn y Gymraeg.

Erbyn yr 1880au, roedd awduron y rhamantau’n tyfu’n fwyfwy uchelgeisiol ac yn fwy gwybodus, ac efallai mai’r gorau, a mwyaf cynhyrchiol, o awduron y rhamantau hyn oedd Beriah Gwynfe Evans (1848-1927), a gyhoeddodd tua deuddeg nofel yn Gymraeg a Saesneg, mwy na hanner ohonynt yn rhamantau hanesyddol. Mae ei nofel gyntaf, Bronwen (1880; is-deitl y, fersiwn Cymraeg yw “Chwedl Hanesyddol am Owain Glyndŵr” yn enghraifft nodweddiadol o’i waith. Ynghyd â dehongliad creadigol o’r hanes ac o rhai o’r chwedlau amheus ynghylch Glyndŵr, ar ôl dechrau braidd yn araf (mae i’r nofel Ragymadrodd, Rhagdraeth, a Rhagarawd cyn y bennod gyntaf!), mae Beriah yn cynnig i’r darllenydd wledd o ystrydebau rhamantaidd: merch brydferth ddiniwed (ei bronnau’n gorlifo!) sy’n syrthio mewn cariad â’r arwr ar unwaith (a’r rhieni yn eu gwahardd, wrth gwrs), cuddwisgoedd, dianc ar hyd coridorau dirgel, dynion drwg yn cynllwynio, ymladd â chleddyfau, marchog du nad oes neb yn gwybod pwy yw e, ac ati.

Byddwch eisoes yn gwybod o ddarllen y rhestr hon ai dyma’r math o lyfr fydd at eich dant. Mewn un man mae’r bardd Iolo Goch yn gwneud proffwydoliaeth, a mellt a tharanau’n dod o nunlle! Gall hyn oll swnio braidd yn wirion, a dyna mae hi mewn ffordd, ac eto dydy hynny ddim yn tynnu dim oddi ar ba mor fendigedig o hwyl yw’r nofel. Mae hi hefyd, yn ei ffordd ei hun, yn eithaf beiddgar - os ydych chi’n ei chymryd hi’n ganiataol mai sych-dduwioldeb starstlyd sy’n nodweddu’r nofel Gymraeg yn y cyfnod, yna syndod fydd un olygfa yn Bronwen lle caiff cymeriad ei daflu oddi ar furiau castell i dasgu darnau o’i ymennydd dros frenin Lloegr. Da’n ni ddim yn y seiat heddiw, bobl.

 

Fel y soniais, ysgrifennodd Beriah yn Saesneg yn ogystal â Chymraeg, ac mae rhai nofelau fel Bronwen ar gael yn y ddwy iaith (er mai’r fersiwn Cymraeg rydym wedi’i chyhoeddi). Fel y mae’n sonio yn ei ragymadrodd (neu’r rhagdraeth; dwi’n anghofio pa un) roedd Beriah yn ymwybodol o’r angen i addysgu’r Cymry am hanes eu gwlad eu hunain, ac yn amlwg yn dymuno estyn hyn i’r gyfran gynyddol o boblogaeth Cymru na allai siarad neu ddarllen Cymraeg. Ymddangosodd rhai o’i nofelau yn Saesneg yn unig, ac un o’r rhain oedd Llywelyn (1885), y cyntaf o ddwy nofel yn adrodd hanes Llywelyn ein Llyw Olaf. Er bod yr iaith, y cyfnod hanesyddol a’r Tywysog Cymreig yn wahanol, mae’r naws a’r arddull yr un fath yn union, er ychydig yn llai ffantasïol, a’r plot efallai ychydig iawn yn dynnach. Y tro hwn fe gawn ddinistr llongau, gornestau “joustio”, a dianc o ddwnsiwn; mae presenoldeb y brawdwr enwog Gruffydd ap Gwenwynwyn, yn cynnig dimensiwn diddorol arall. Mae’n rhoi cyfle i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg i gael blas llawn ar Ramant Hanesyddol Gymreig oes Fictoria, ac yn dystiolaeth bellach, pe bai ei hangen, nad Caradoc Evans ddyfeisiodd llenyddiaeth Eingl-Gymreig.

O’r ddwy nofel, Bronwen sy’n well gen i ddim ond am ei fod mor wallgof, ac oherwydd bod deialog Beriah yn well yn Gymraeg na’i Saesneg pseudo-Shakespeareaidd. Ond mewn gwirionedd does dim llawer rhyngddynt: roedd Beriah, mae’n amlwg, yn ysgrifennu i fformiwla, a hwyrach mai dyma wendid y genre yn gyffredinol. Fel y nododd Dafydd Jenkins yn ei draethawd 1944 ar y nofel Gymraeg, i raddau mae’r nofelau hyn i gyd yn adrodd yr un stori: bydd yr arwr, pa un a yw’n Llywelyn, Glyndŵr, Rheinallt ap Gruffydd neu gymeriad dychmygol, wastad yn gwbl urddasol, nobl, a Chymreig; gellir dosbarthu’r merched i gyd i'r categorïau mam/gwrach/gwyrwyf, yr olaf o’r rhain yn ddieithriad yn bur a rhinweddol, a’u prif gyfraniad i’r plot yw llewygu ar yr adegau priodol (chwarae teg iddi, caiff Bronwen lefaru ambell put-down bachog, a chyfle i helpu’r arwr unwaith neu ddwy). Yn yr un ffordd, bydd y gŵr drwg yn gerlyn diegwyddor, ac fel arfer (ond nid bob tro) yn Sais. Caiff yr arwr ei herio, bydd y ferch mewn perygl, bydd yr arwr yn ei hachub, a threchu’r gelyn, beth bynnag oedd yr hanes mewn gwirionedd (mae plot Bronwen yn gorffen gyda Glyndŵr yn cael ei enwi'n Dywysog Cymru; dim ond mewn ychydig baragraffau byr yn yr “ôl-arawd” cawn glywed am fethiant ei wrthryfel ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach).

Er nad y nofelau hyn mo’r ffordd orau o ddysgu am hanes Cymru felly, maent yn ddiddorol eithriadol o bersbectif hanesyddol eu hunain. Yn amlwg roedd ysgrifennu’r math yma o straeon - fel oedd yn digwydd mewn barddoniaeth gan Eben Fardd a’i debyg - yn gwasanaethu fel ffordd cymdeithasol-dderbyniol i fynegi cenedlaetholdeb Cymreig yng nghyd-destun Prydain y cyfnod Fictoriaidd. Yn y straeon hyn, y Cymry, a Chymru ei hun mewn ffordd, yw’r arwyr. Er bod y pellter hanesyddol rhwng y cyfnod a bortreedir yn y nofelau hyn yn golygu nad oedd fawr o berygl iddynt gael eu dehongli fel galwad am y fath o wrthryfel cenedlaethol treisgar maen nhw’n aml yn eu portreadu, ac mewn ffordd mae’n bosib gweld y llyfrau hyn eu hunain fel math o wrthsafiad cenedlaetholgar, yn galw, fel y maen nhw, am gydnabyddiaeth o Gymru a’i hanes fel pwnc dilys ar gyfer naratifau mawr, arwrol.

Yn ogystal, drwy osod y straeon yn y cyfnod canoloesol, gallai’r Saeson fod yn elynion, ac yn aml maen nhw’n cael portreadu’n greaduriaid creulon ac anwaraidd (er bod awduron yn ymdrechu dangos enghreifftiau o Saeson caredig ac urddasol hefyd). Fel arall, drwy osod bradwyr Cymreig ynddynt - fel yn achos Llywelyn - roedd modd hyrwyddo’r syniad mai’r Cymry eu hun oedd eu gelyn pennaf, a phe bai modd iddynt uno a chyd-weithio, gellid sicrhau buddugoliaeth.

Er bod y llyfrau hyn yn ymwneud â’r gorffennol felly, roedd eu hawduron yn ysgrifennu ar gyfer y presennol; nid gweithiau’n edrych yn ôl ydynt, ond rhai’n brwydro yn y presennol i ffurfio a gweledigaeth newydd o hunaniaeth Gymreig. Mae hwn yn agwedd glir a bwriadol i’r gweithiau hyn, ac un fydd o bosib yn eu helpu i apelio at rai darllenwyr heddiw mewn ffordd na fydd y canon llenyddol Cymraeg traddodiadol yn ei wneud, o bosib.

Straeon felly, na allai fod wedi eu hysgrifennu mewn oes wahanol. Erbyn y 1900au roedd Rhamantau Hanesyddol wedi mynd yn llawer prinnach, mae’n debyg yn sgil pylu’r brwdfrydedd cenedlaetholgar a’u hysbrydolodd gyda methiant mudiad Cymru Fydd. Erbyn canol yr ugeinfed ganrif roedd y cyd-destun wedi newid yn llwyr, gydag ymwybyddiaeth o ddirywiad ieithyddol, heb sôn am erchyllterau rhyfel a hil-laddiad, yn dylanwadu’n ddwfn ar lenyddiaeth Gymraeg a gwneud ysgrifennu nofelau mor naïf â Bronwen yn amhosib. Er bod adleisiau o’r Rhamantau Hanesyddol yn parhau i ymddangos, mewn llenyddiaeth i’r ifanc y maent i’w cael gan fwyaf (megis Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin-Jones, 1946), ac yn ddiweddarach, erbyn y 1960au, byddai awduron fel Rhiannon Davies Jones a Marion Eames yn dechrau ysgrifennu math newydd o nofel hanesyddol yn y Gymraeg, mwy aeddfed a chymhleth, heb odid ddim o ôl y Rhamantau i’w weld ynddynt.

Ac eto, mae’r nifer enfawr o Ramantau Hanesyddol ymddangosodd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn tystio i’w poblogrwydd gyda darllenwyr; mae’n drawiadol mor gyflym y cawsant eu hanghofio bron yn llwyr. Mae’n debyg, wrth i mi ysgrifennu hyn, mai dim ond llond llaw o bobl ar y ddaear sydd wedi darllen Bronwen, neu hyd yn oed yn gwybod bod y nofel yn bodoli. Hwyrach mai eu bai oedd methu â chydymffurfio â rhagdybiaethau carfan digon pwerus o beth ddylai nofel fod: heb fod yn ddigon ‘llesol’ i’r brif ffrwd anghydffurfiol; ac ar yr un pryd golygai’r pwyslais ar antur a difyrrwch nad oeddynt yn ddigon ‘llenyddol’ i apelio at ysgolheigion y prifysgolion. Roedd ganddyn nhw bwynt: mae cynnyrch llenyddiaeth Gymraeg 19eg ganrif yn ddrwg-enwog am mor wael yw cymaint ohono, ac nid oes gwadu bod mwyafrif y Rhamantau Hanesyddol yn haeddu cael eu hanghofio. Ond mae’n sicr y mae’r rhai gorau ohonynt, fel rhai Beriah Gwynfe Evans, yn haeddu bod yn fwy adnabyddus nag ydynt, a chyfle i weld os fydd persbectif yr unfed ganrif ar hugain yn garedicach iddynt na’r ugeinfed.

 

Back to blog

Leave a comment

Please note, comments need to be approved before they are published.