Y Rhamant Hanesyddol Gymreig

Y Rhamant Hanesyddol Gymreig

F efallai, yn achos unrhyw genedl, mai ei harwyr yw hanes Cymru i lawer: Llywelyn Fawr, Llywelyn ein Llyw Olaf ac, yn anad neb, Owain Glyndŵr. Mae’r ffigurau hyn wedi ein swyno erioed, ac yn dal i wneud, ac er nad oes fersiwn Hollywood hyd yma, mae eu straeon yn cael eu haddasu o hyd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd mewn rhaglenni dogfen, dramâu ac, wrth gwrs, nofelau, a’r enwocaf o’r rhain efallai yw nofel Saesneg John Cowper Powys, Owen Glendower.

Nid pethau newydd mo’r addasiadau. Mewn gwirionedd, mae straeon am yr arwyr hyn wedi cael eu hadrodd ers oes yr arwyr eu hunain. Ond yma yng Nghymru, dydyn ni ddim bob amser yn cofio hynny, ac mae’n debyg y bydd llawer yn synnu o ddysgu nad nofel Cowper Powys oedd y gyntaf i ddefnyddio stori Glyndŵr – nid hyd yn oed yr ail na’r drydedd. Ysgrifennwyd cymaint â phedair nofel yn Gymraeg am Owain Glyndŵr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn unig – os nad oes rhai eraill nad ydw i wedi dod o hyd iddynt eto!

I raddau, nid yw’n syndod mai’r oes Fictoria oedd oes aur y Rhamantau Hanesyddol yng Nghymru. Wedi’r cyfan, cyfnod o adfywiad cenedlaethol Cymreig ydoedd, a Walter Scott oedd awdur mwyaf poblogaidd y byd i gyd yn y ganrif honno; ef a ddyfeisiodd y rhamant hanesyddol gyda gweithiau fel Ivanhoe, Waverley, Rob Roy ac ati. Roedd y rhain yn cynnig gweledigaeth genedlaethol o hanes yr Alban a Lloegr, a theg fyddai disgwyl i’r Cymry edrych yn genfigennus ar y llyfrau hyn. Mewn sawl ffordd felly, Rhamantau Hanesyddol yw’r union fath o nofelau y byddech yn disgwyl i awduron Cymraeg eu cynhyrchu — a dyna’n union a wnaeth llawer iawn ohonynt. Ysywaeth, mae’r straeon hyn bellach bron yn llwyr angof, ac er bod yn rhaid cyfaddef bod eu hansawdd yn amrywio’n fawr, a dweud y lleiaf, os oes genre mewn llenyddiaeth Gymraeg sy’n galw arnom i edrych arno o’r newydd, yna dyma fe.

Dechreuodd y Rhamantau Hanesyddol cynharaf ymddangos yn y 1860au, bron ar ddechrau’r nofel Gymraeg (ymddangosodd Aelwyd F’Ewythr Robert gan Gwilym Hiraethog, y nofel Gymraeg gyntaf yn ôl rhai, yn 1852), beth amser cyn i nofelydd mawr cyntaf y Gymraeg, Daniel Owen, ddechrau ysgrifennu. Ond roeddynt ar eu hanterth yn y 1870au a’r 80au, gyda nofelau fel Llywelyn Llyw Olaf Gwalia (dienw; 1872‑3), Karl y Llew (dienw; 1875‑6), Ednyfed Fychan gan Thomas John Jones (1878), ac Owain Glyndŵr gan John Davies Jones (1877‑8), Gruffydd ab Cynan (1885) gan Elis o’r Nant, i enwi dim ond llond llaw. Erbyn yr 1890au roedd o leiaf un enghraifft gan ferch hefyd: Y Fun o Eithinfynydd gan Mary Oliver Jones (1893), sy’n dilyn anturiaethau carwriaethol y bardd Dafydd ap Gwilym. 

Yn amlach na pheidio, dim ond yn yr ystyr bod rhyw ffaith hanesyddol yn cyfrannu at eu cymeriadau a’u plot y mae’r gweithiau hyn yn ‘hanesyddol’: nid yw’r digwyddiadau go iawn fel arfer yn ddim mwy na fframwaith bras i’r awdur hongian antur arno. Yn aml, mae’r strwythur yn wan, ychydig mwy na chrwydro o frwydr i frwydr. Un o’r enghreifftiau cynnar a’r gorau o’r math hwn o antur ‘bachgennaidd’ (chwedl Dafydd Jenkins) yw Rheinallt ap Gruffydd gan Isaac Foulkes (1873). Roedd hefyd yn un o’r nifer cymharol fach o’r gweithiau hyn a gyhoeddwyd fel llyfr, yn hytrach na dim ond cyfres mewn cylchgronau; ei fantais fawr yw ei bod yn gymharol fyr, fel na chaiff y darllenydd gyfle i flino ar y plot llac. Ychydig iawn o ddeunydd hanesyddol sydd ynddi - arweiniodd ysgarmes fach, hanner-anghofiedig yn ystod Rhyfeloedd y Tywysogion at grogi Maer dinas Caer gan bendefig Cymreig - sy’n gadael digon o le i’r awdur greu cymeriadau dychmygol sy’n fwy cofiadwy na’r arwr hanesyddol sy’n rhoi ei deitl i’r nofel. Antur fach hwyliog: rwy’n dychmygu mai dyma’r math o beth yr oedd pobl fel Roger Edwards yn ymateb iddo wrth gwyno am ddiffyg nofelau ‘llesol’ yn y Gymraeg.

Erbyn yr 1880au, roedd awduron y rhamantau’n mynd yn fwyfwy uchelgeisiol a gwybodus, ac efallai mai Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) oedd y gorau a’r mwyaf cynhyrchiol ohonynt. Cyhoeddodd tua deuddeg nofel yn Gymraeg a Saesneg, a mwy na hanner ohonynt yn ramantau hanesyddol. Mae ei nofel gyntaf, Bronwen (1880; is-deitl y fersiwn Gymraeg yw “Chwedl Hanesyddol am Owain Glyndŵr”), yn enghraifft nodweddiadol o’i waith. Ynghyd â dehongliad creadigol o’r hanes ac o rai o’r chwedlau amheus ynghylch Glyndŵr, ar ôl dechrau braidd yn araf (mae gan y nofel Ragymadrodd, Rhagdraeth, a Rhagarawd cyn y bennod gyntaf!), mae Beriah yn cynnig gwledd o ystrydebau rhamantaidd i’r darllenydd: merch brydferth ddiniwed (â’i bronnau’n gorlifo!) sy’n syrthio mewn cariad â’r arwr ar unwaith (a’i rhieni’n eu gwahardd, wrth gwrs), cuddwisgoedd, dianc ar hyd coridorau dirgel, dynion drwg yn cynllwynio, ymladd â chleddyfau, marchog du nad oes neb yn gwybod pwy ydyw, ac ati.

Byddwch eisoes yn gwybod wrth ddarllen y rhestr hon ai dyma’r math o lyfr at eich dant. Mewn un man, mae’r bardd Iolo Goch yn proffwydo, a mellt a tharanau’n ymddangos o nunlle! Gall hyn oll swnio braidd yn wirion, ac mae hi felly mewn ffordd, ac eto nid yw hynny’n tynnu dim oddi ar ba mor wych o hwyl yw’r nofel. Mae hi hefyd, yn ei ffordd ei hun, yn eithaf beiddgar - os ydych chi’n cymryd yn ganiataol mai sych-dduwioldeb stâr-stiff sy’n nodweddu’r nofel Gymraeg yn y cyfnod, yna bydd un olygfa yn Bronwen yn syndod: caiff cymeriad ei daflu oddi ar furiau castell a’i ymennydd yn tasgu dros frenin Lloegr. Dydyn ni ddim yn y seiat heddiw, bobl.

 

Fel y soniais, ysgrifennodd Beriah yn Saesneg yn ogystal â’r Gymraeg, ac mae rhai nofelau fel Bronwen ar gael yn y ddwy iaith (er mai’r fersiwn Gymraeg rydym wedi’i chyhoeddi). Fel y dywed yn ei ragymadrodd (neu’r rhagdraeth; dwi’n anghofio pa un), roedd Beriah yn ymwybodol o’r angen i addysgu’r Cymry am hanes eu gwlad eu hunain, ac yn amlwg yn dymuno ymestyn hyn i’r gyfran gynyddol o boblogaeth Cymru nad oedd yn gallu siarad na darllen Cymraeg. Ymddangosodd rhai o’i nofelau yn Saesneg yn unig, ac un o’r rhain oedd Llywelyn (1885), y gyntaf o ddwy nofel sy’n adrodd hanes Llywelyn ein Llyw Olaf. Er bod yr iaith, y cyfnod hanesyddol a’r Tywysog Cymreig yn wahanol, mae’r naws a’r arddull yn union yr un fath, er ei bod ychydig yn llai ffantasïol a’r plot efallai ychydig yn dynnach. Y tro hwn cawn longau’n cael eu dinistrio, gornestau “joustio”, a dianc o ddwnsiwn; mae presenoldeb y bradwr enwog Gruffydd ap Gwenwynwyn yn ychwanegu dimensiwn diddorol arall. Mae’n rhoi cyfle i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg gael blas llawn ar Ramant Hanesyddol Gymreig oes Fictoria, ac yn dystiolaeth bellach, pe bai ei hangen, nad Caradoc Evans a ddyfeisiodd lenyddiaeth Eingl-Gymreig.

O’r ddwy nofel, Bronwen sy’n well gen i, ond dim ond am ei bod mor wallgof, ac am fod deialog Beriah yn well yn Gymraeg nag yn ei Saesneg ffug-Shakespearaidd. Ond mewn gwirionedd, does dim llawer rhyngddynt: mae’n amlwg bod Beriah yn ysgrifennu yn ôl fformiwla, ac efallai mai dyma wendid y genre yn gyffredinol. Fel y nododd Dafydd Jenkins yn ei draethawd yn 1944 ar y nofel Gymraeg, i raddau mae’r nofelau hyn i gyd yn adrodd yr un stori: bydd yr arwr, boed yn Llywelyn, Glyndŵr, Rheinallt ap Gruffydd neu’n gymeriad dychmygol, bob amser yn gwbl urddasol, bonheddig a Chymreig; gellir rhannu’r merched i gyd yn y categorïau mam/gwrach/morwyn, a’r olaf ohonynt yn ddieithriad yn bur a rhinweddol, a’u prif gyfraniad i’r plot yw llewygu ar yr adegau priodol (er tegwch iddi, caiff Bronwen ddweud ambell put-down bachog, a chyfle i helpu’r arwr unwaith neu ddwy). Yn yr un modd, bydd y gŵr drwg yn gerlyn diegwyddor, ac fel arfer (ond nid bob tro) yn Sais. Caiff yr arwr ei herio, bydd y ferch mewn perygl, bydd yr arwr yn ei hachub ac yn trechu’r gelyn, beth bynnag oedd yr hanes mewn gwirionedd (mae plot Bronwen yn gorffen gyda Glyndŵr yn cael ei enwi’n Dywysog Cymru; dim ond mewn ychydig o baragraffau byr yn yr “ôl-arawd” y cawn glywed am fethiant ei wrthryfel rai blynyddoedd yn ddiweddarach).

Er nad y nofelau hyn yw’r ffordd orau o ddysgu am hanes Cymru, maent yn hynod ddiddorol o safbwynt hanesyddol eu hunain. Yn amlwg, roedd ysgrifennu’r math hwn o straeon - fel y digwyddai mewn barddoniaeth gan Eben Fardd a’i debyg - yn ffordd gymdeithasol dderbyniol o fynegi cenedlaetholdeb Cymreig yng nghyd-destun Prydain Fictoraidd. Yn y straeon hyn, y Cymry, a Chymru ei hun mewn ffordd, yw’r arwyr. Er bod y pellter hanesyddol rhwng y cyfnodau a bortreadir yn y nofelau hyn yn golygu nad oedd fawr o berygl iddynt gael eu dehongli’n alwad am y math o wrthryfel cenedlaethol treisgar a bortreadir ynddynt yn aml, ac er ei bod yn bosibl gweld y llyfrau hyn eu hunain fel rhyw fath o wrthsafiad cenedlaetholgar, maent yn galw, fel y maent, am gydnabod Cymru a’i hanes yn bwnc dilys ar gyfer naratifau mawr ac arwrol.

Yn ogystal, drwy osod y straeon yn y cyfnod canoloesol, gallai’r Saeson fod yn elynion, ac yn aml cânt eu portreadu’n greaduriaid creulon ac anwaraidd (er bod awduron yn ymdrechu i ddangos enghreifftiau o Saeson caredig ac urddasol hefyd). Fel arall, drwy gynnwys bradwyr Cymreig ynddynt - fel yn achos Llywelyn - roedd modd hyrwyddo’r syniad mai’r Cymry eu hunain oedd eu gelyn pennaf, ac y gellid sicrhau buddugoliaeth pe baent yn gallu uno a chydweithio.

Er bod y llyfrau hyn yn ymwneud â’r gorffennol, felly, roedd eu hawduron yn ysgrifennu ar gyfer y presennol; nid gweithiau sy’n edrych yn ôl ydynt, ond gweithiau sy’n brwydro yn y presennol i ffurfio gweledigaeth newydd o hunaniaeth Gymreig. Mae hon yn agwedd glir a bwriadol ar y gweithiau hyn, ac efallai y bydd yn eu helpu i apelio at rai darllenwyr heddiw mewn ffordd na fydd y canon llenyddol Cymraeg traddodiadol yn ei wneud.

Straeon o’r fath na allai fod wedi’u hysgrifennu mewn oes wahanol. Erbyn y 1900au, roedd Rhamantau Hanesyddol wedi mynd yn llawer prinnach, mae’n debyg o ganlyniad i bylu’r brwdfrydedd cenedlaetholgar a’u hysbrydolodd, ynghyd â methiant mudiad Cymru Fydd. Erbyn canol yr ugeinfed ganrif, roedd y cyd-destun wedi newid yn llwyr, gydag ymwybyddiaeth o ddirywiad ieithyddol, heb sôn am erchyllterau rhyfel a hil-laddiad, yn dylanwadu’n ddwfn ar lenyddiaeth Gymraeg ac yn gwneud ysgrifennu nofelau mor naïf â Bronwen yn amhosibl. Er bod adleisiau o’r Rhamantau Hanesyddol yn parhau i ymddangos, ceir y rhan fwyaf ohonynt mewn llenyddiaeth i bobl ifanc (megis Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin-Jones, 1946), ac yn ddiweddarach, erbyn y 1960au, dechreuodd awduron fel Rhiannon Davies Jones a Marion Eames ysgrifennu math newydd o nofel hanesyddol yn Gymraeg, yn fwy aeddfed a chymhleth, heb fawr o ôl y Rhamantau i’w weld ynddynt.

Ac eto, mae’r nifer enfawr o Ramantau Hanesyddol a ymddangosodd yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn tystio i’w poblogrwydd ymhlith darllenwyr; mae’n drawiadol mor gyflym y cawsant eu hanghofio bron yn llwyr. Mae’n debyg, wrth i mi ysgrifennu hyn, mai dim ond llond llaw o bobl ar y ddaear sydd wedi darllen Bronwen, neu hyd yn oed yn gwybod bod y nofel yn bodoli. Efallai mai eu bai oedd methu â chydymffurfio â rhagdybiaethau carfan ddigon pwerus ynghylch beth ddylai nofel fod: nid oeddent yn ddigon ‘llesol’ i’r brif ffrwd anghydffurfiol; ac ar yr un pryd, golygai’r pwyslais ar antur a difyrrwch nad oeddent yn ddigon ‘llenyddol’ i apelio at ysgolheigion y prifysgolion. Roedd ganddyn nhw bwynt: mae llawer o gynnyrch llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ddrwg-enwog o wael, ac ni ellir gwadu bod mwyafrif y Rhamantau Hanesyddol yn haeddu cael eu hanghofio. Ond mae’n sicr fod y rhai gorau ohonynt, fel rhai Beriah Gwynfe Evans, yn haeddu bod yn fwy adnabyddus nag ydynt, a chael cyfle i weld a fydd persbectif yr unfed ganrif ar hugain yn fwy caredig iddynt na phersbectif yr ugeinfed.

 

Yn ôl i'r blog

Gadael sylw

Sylwch, mae angen cymeradwyo sylwadau cyn iddynt gael eu cyhoeddi.