Hepgor i wybodaeth llyfr
1 o 1

Anobaith Serch a Cherddi Eraill (R. Silyn Roberts)

Anobaith Serch a Cherddi Eraill (R. Silyn Roberts)

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris yn yr arwethiant £9.99 GBP
Gostyngwyd Dim ar ôl
Treth wedi'i chynnwys.


“Fe’m carodd fel y câr yr haul y ddaear:
Bedyddiodd fi â gwres ei fynwes hawddgar;
Fe’i cerais ef fel câr y lloer yr aig
I’w yrru a’i guro’n greulon ar y graig."

Er ei fod yn ddylanwadol fel gwleidydd a diwygiwr cymdeithasol, roedd Robert Silyn Roberts (1871-1930) hefyd yn fardd medrus ac ar anterth ei boblogrwydd roedd yn un o feirdd enwocaf Cymru. 

Wedi astudio dan John Morris-Jones, roedd yn aelod blaenllaw o fudiad rhamantaidd y ‘dadeni’ llenyddol mewn barddoniaeth Gymraeg dechreuodd gyda throad yr ugeinfed ganrif. Serch a chariad yw prif destunau ei gerddi, gan gynnwys yr enwocaf ohonynt, y bryddest ‘Trystan ac Esyllt’, enillodd iddo 
Goron Eisteddfod Genedlaethol 1902, gan guro'i gyfaill W. J. Gruffydd.

Mae’r casgliad newydd hwn o’i farddoniaeth yn cynnwys mwyafrif helaeth y cerddi cyhoeddodd Silyn, gan gynnwys holl gerddi’r cyfrolau Telynegion a Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill, yn ogystal â nifer o’r cerddi o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf a rhai diweddarach. 

Clawr Papur, 156 tudalen.

Gweld manylion llawn