Yr Ogof (T. Rowland Hughes)
Yr Ogof (T. Rowland Hughes)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Sylwodd Beniwda hefyd ar eiddgarwch y bobl; yr oeddynt, yn amlwg, yn hanner-addoli'r dyn. Efallai fod Dan yn ei le, wedi'r cwbl. A hwn yn arwain y pererinion a Thera ar flaen ei filwyr, beth fyddai tri neu bedwar cant o Rufeinwyr?
Ond ai rhyddhau'r genedl oedd ei nod?
Er bod bywyd Joseff yn Jwdea yn y ganrif gyntaf yn ddigon cyfforddus, mae ganddo'i bryderon. Mae ei ferch Rwth braidd yn rhy gyfeillgar gyda chanwriad Rhufeinig; mae'n poeni am weithgaredd gwleidyddol ei fab, Beniwda; ac mae ar ei wraig, Esther, eisiau iddo fagu mwy o uchelgais.
Gweld cyfle i ymddyrchafu y mae Joseff, felly, pan aiff i Jerwsalem; ond wrth gael ei dynnu i mewn i ddigwyddiadau o bwys oesol, rhaid iddo ddewis rhwng ei gydwybod a'i uchelgais: rhwng yr hyn sy'n gyfforddus a'r hyn sy'n gyfiawn.
Daeth T. Rowland Hughes yn enwog fel awdur O Law i Law a William Jones: nofelau'n ymdrin â bro chwarelyddol gogledd Cymru. Pan symudodd at ddeunydd Beiblaidd a hanesyddol gyda'i drydedd nofel, Yr Ogof, roedd yn droad annisgwyl, ond yn un a weddai'n berffaith i ddoniau llenyddol awdur Cymraeg mwyaf poblogaidd ei oes.
Clawr Papur, 310 tudalen.
Share
